Gwybodaeth Gyffredinol

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn ysgol Gymraeg ei chyfrwng a chynigir addysg i ddisgyblion 11-18 oed. Addysgir pob pwnc yn yr ysgol (ac eithrio Saesneg) trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cydweithia'r ysgol yn agos gyda'r ysgolion cynradd sy'n ei fwydo, megis
  • Ysgol Cynwyd Sant, Maesteg
  • Ysgol Bro Ogwr, Pen-y-bont
  • Ysgol Y Ferch o'r Sger, Corneli
  • Ysgol Cwm Garw, Pontycymer

Ceir offer ac adnoddau newydd ac arloesol a chwricwlwm sy'n anelu at ddatblygu sgiliau disgyblion trwy gyfrwng pynciau arunig a hefyd trwy wersi sgiliau, clybiau allgyrsiol a gwaith thematig sy'n pontio rhwng y pynciau gwahanol.



Meurig Jones  Geraint Isaac
(Prif Athro) (Cadeirydd y corff
Llywodraethol)

Last modified: Friday, 15 June 2018, 5:06 AM